Arwydd Williams Homes Bala Ltd

Ein Busnes


Mae Williams Homes yn fusnes teuluol yn y Bala, Gwynedd ar gyrion Parc Cenedlaethol Eryri.

Sefydlwyd ein cwmni yn 2003 ac rydym ni’n arbenigo mewn adeiladu cartrefi ffrâm pren arobryn carbon isel, arloesol o ansawdd ledled Gogledd a Chanolbarth Cymru. Mae gennym ni ein gweithdy gwaith coed ein hunain yn cynhyrchu fframiau, drysau a ffenestri pren gan ddefnyddio seiri coed profiadol i safon uchel iawn.

Mae Williams Homes wedi’i achredu ag ISO 9001:2015, 14001:2015 a’r 45001:2018 ac yn aelod o sefydliadau masnach cydnabyddedig fel ‘Trada’ a ‘Constructionline’. Rydym ni hefyd yn aelod balch o Woodknowledge Wales, sy’n hyrwyddo datblygiad diwydiannau pren ar gyfer hybu ffyniant a gwella lles yng Nghymru.