Mae Williams Homes yn fusnes teuluol yn y Bala, Gwynedd a sefydlwyd yn 2003. Rydym ni’n arbenigo mewn adeiladu cartrefi ffrâm pren arobryn carbon isel, arloesol o ansawdd ledled Gogledd a Chanolbarth Cymru.
Mae gennym ni ein gweithdy gwaith coed ein hunain yn cynhyrchu fframiau, drysau a ffenestri pren gan ddefnyddio seiri coed profiadol i safon uchel iawn.
Ein Gwaith
Ar hyn o bryd, mae gan Williams Homes safleoedd ledled Gogledd a Chanolbarth Cymru (a thu hwnt). Rydym ni’n gweithio gyda chleientiaid yn y sectorau Cymdeithasol, Cyhoeddus a Phreifat.