English
  • Cartref
  • Amdanom ni
  • Gwobrau
  • Manteision Fframiau Coed
  • Prosiectau
  • Gwasanaethau
  • Cynnyrch
  • Fframiau Coed
  • Ffenestr
  • Drysau
  • Cwestiynau?
  • Cysylltwch
  • Dolenni

Cynnyrch : Ffenestri

Dilewyd yr hen gred fod ffenestri coed yn golygu 'bywyd byr a chynhaliaeth uchel' gan i waith coed ennill ei le fel opsiwn a all oroesi eraill. Dosberthir ein ffenestri, sydd wedi'u cynllunio a'u cynhyrchu'n ofalus, i'ch cartref yn gwbl orffenedig ac wedi eu gwydro yn llawn cyn eu gosod yn eu lle'n ofalus - cynnyrch o ansawdd uchel, a fydd o fudd i'ch cartref am flynyddoedd i ddod. Drwy gyfuno hir oes efo chynhaliaeth isel, mae pren yn prysur ennill ei boblogrwydd fel y dewis cyntaf ar gyfer mwy a mwy o gartrefi.

Gallwn gynnig amcangyfrif safonol u-value o 1.7 ar gyfer tai newydd sbon, ond gallwn hefyd gynnig dull cost effeithlon iawn o ennill u-value 1.1, sydd yn dda iawn ar gyfer cyfrifon SAP. Fel cwmni teuluol, 'rydym yn sicrhau bod ansawdd ein holl gynnyrch yn cyrraedd y safonau uchaf. Mae pob cynnyrch a gwneuthuriad yn cael eu cynhyrchu yn ein huned newydd sbon. Mae'r posibiliadau'n ddiddiwedd a gobeithiwn y bydd eich ffenestri newydd yn cael eu hedmygu am flynyddoedd i ddod.

Cartref | Amdanom ni | Gwobrau | Manteision Fframiau Coed | Prosiectau | Gwasanaethau | Cynnyrch | Cwestiynau | Cysylltwch | Dolenni

Hawlfraint © 2007 Williams Homes Ltd. Cedwir pob hawl.