English
  • Cartref
  • Amdanom ni
  • Gwobrau
  • Manteision Fframiau Coed
  • Prosiectau
  • Gwasanaethau
  • Cynnyrch
  • Fframiau Coed
  • Ffenestr
  • Drysau
  • Cwestiynau?
  • Cysylltwch
  • Dolenni

Cynnyrch : Fframiau coed

Mae mwy o bobl ar draws y Deyrnas Unedig yn dewis fframiau coed yn hytrach nac unrhyw system adeiladu arall. Defnyddir y system hon gan y mwyafrif o'r rhai hynny sy'n dewis adeiladu eu hunain, a chan y rhelyw o'r 25 cwmni mwyaf blaenllaw. Felly, mae mwy a mwy o bobl yn darganfod y mwynhad o fyw mewn cartref ffrâm coed.

Y dyddiau hyn, mae'n rhaid i bob adeilad newydd gydymffurfio â safonau effeithiolrwydd ynni newydd. Ond, gan fod pren yn ynysydd naturiol da ac yn gwella safonau effeithiolrwydd deunyddiau ynysu, mae adeiladau ffrâm coed wedi bod yn cwrdd â'r safonau, gan hyd yn oed ragori ar y safonau ers, blynyddoedd. Maent hefyd yn fwy cysurus i fyw ynddynt; diolch i ynysiad rhagorol y gragen adeileddol, mae'r holl dy yn cynhesu yn llawer cynt, heb unrhyw rannau o'r ty yn teimlo'n oer. Mae ynysiad gwell, law yn llaw a diddosrwydd drafft manwl, yn golygu bwyler llai, biliau gwresogi is a chartref mwy cysurus a chyffyrddus

Ychydig iawn sydd wedi newid dros y blynyddoedd yn y modd yr eir ati i adeiladu tai cerrig. Maent yn dibynnu ar sgiliau nifer lleihaol o grefftwyr sy'n gweithio ar safleoedd anniben ym mhob tywydd. Mae cartrefi ffram coed ar y llaw arall, wedi cael eu hadeiladu'n fanwl gywir mewn ffatri, gan wneud i ddileu'r rhan helaethaf o'r gwaith adeiladu a wneir yn draddodiadol ar y safle.

Mae mesuriadau ystafelloedd yn fwy cywir hefyd sy'n ddefnyddiol iawn pan fyddwch angen gosod cegin neu garped. Defnyddir dull leinin plastr fwrdd sych, yn hytrach na phlastr gwlyb, sy'n golygu y gellir cychwyn ar y gwaith o beintio a phapuro'r eiliad y mae'r ty wedi'i gwblhau, gan leihau'r angen i wneud cywiriadau os ydi'r plastr wedi crebachu.

Oherwydd newid cyson yn y farchnad fframiau coed, gallwn bellach gynnig dau fath o ffram i chi. Y math cyntaf yw'r un ar gyfer datblygwyr tai. Maent yn gost effeithlon iawn ac yn gallu gwireddu anghenion pob datblygiad mewn dim o amser. Gellir gwneud cais am wybodaeth bellach gennym.

Yr ail fath yw'r un ar gyfer hunan-adeiladwyr, sy'n addas ar gyfer cynllun a ddefnyddir unwaith yn unig. Mae'r math hwn yn fwy addas ar gyfer cwsmer sy'n chwilio am un pecyn cyflawn, sy'n aml yn cynnwys gorchudd, valley boards, ffasgell a soffit sydd yn gwbl orffenedig ac wedi'i wydro'n gyfan gwbl, a drysau a ffenestri wedi'u ffitio'n barod; mae'r posibiliadau'n ddiddiwedd.

Mae'r ddau fath ar gael gennym, a dyfynnir bob pris yn unigol ac yn unol ag anghenion y cwsmer.

Cartref | Amdanom ni | Gwobrau | Manteision Fframiau Coed | Prosiectau | Gwasanaethau | Cynnyrch | Cwestiynau | Cysylltwch | Dolenni

Hawlfraint © 2007 Williams Homes Ltd. Cedwir pob hawl.