
Mae ein gwasanaeth cyflawn o gynhyrchu a gosod yn ein galluogi i leihau'r cynifer o wallau a gysylltir ag adeiladu tai. Gan mai ein cwmni ni sy'n cyflenwi'r fframiau a'r ffenestri, rhoddir y cyfrifoldeb arnom i sicrhau bod pob dim yn cydgordio er mwyn sicrhau bod y tŷ fel cragen wedi'i selio cyn gynted ag sy'n bosibl.
Rydym yn darparu gwasanaeth cynhwysfawr o gynllunio a darparu pecyn yn unig i ddarparu tai gorffenedig. Mae ein cwmni yn 'fan galw unwaith' ar gyfer unrhyw un sy'n dymuno adeiladu tŷ eu hunain. Mae ein fframiau wedi eu gwneud i safon uchel ac mae pob panel mewnol, cyplysau to a distiau llawr mewn 400 canolfan er mwyn sicrhau ty gorffenedig gwell.
Oherwydd bod y rhychwant y gellir ei gyrraedd gydag 'easi-joists' yn fwy, dyma'r rhai a ddefnyddiwn yn safonol, a hefyd, maent yn lleihau'r angen i ddefnyddio cymaint o ddur. Maent hefyd yn fanteisiol i'r fasnach drydan a phlymio. Dim ond ein contractwyr a ddefnyddir i godi ein citiau a'n gwaith coed. Mae hyn eto yn sicrhau gwaith gorffenedig o safon uchel.
Cynigiwn wasanaeth a chyngor unigryw na all unrhyw gwmni arall ei gynnig. 'Rydym wedi trafod prisiau cystadleuol tu hwnt gyda nifer o gyflenwyr yn yr ardal a gallwn drosglwyddo'r manteision hyn i chi neu eich cleientiaid i'w galluogi i ymgyrraedd at ba bynnag brosiect y dymunant o fewn y gyllideb y dymunant.
Gallwn gyflenwi a rhoi cyngor ar y cynnyrch canlynol: