Croeso i wefan Williams Homes & Timber Frames; gobeithio y bydd ein gwefan o ddiddordeb
ac o fudd i chi. Yma yn Williams Homes rydym yn cynhyrchu
ffenestri,
drysau allanol a
fframiau
coed o safon uchel. Ymfalchiwn yn ein cynnyrch a'n gwasanaeth o safon uchel. Gallwn roi faint
bynnag ag y dymunwch o gyngor arbenigol gyda'r broses adeiladu - o gynllunio a gosod y seiliau
i gwblhau eich cartref newydd. Am wybodaeth bellach am y gwasanaethau a ddarperir gennym, ewch
i'r dudalen
gwasanaethau.
Mae gennym amrywiaeth o gleientiaid sy'n cynnwys cwsmeriaid sy'n penderfynu hunan-adeiladu unwaith yn unig,
a chwmniau adeiladu cenedlaethol megis Travis Perkins a Huws Gray. ´Rydym hefyd yn cyflenwi'r Ymddiriedolaeth
Genedlaethol a Cadw. Am gymorth a chyngor pellach,
cysylltwch â ni. ´Rydym yn ymdrechu i brisio a dychwelyd
cynlluniau o fewn 5 diwrnod gwaith. Derbynnir cynlluniau ar ffurf Autodesk, AutoCAD© ac Adobe Acrobat©.