
Dyma restr fras o'r cwestiynau cyffredinol a ofynnir am dai ffrâm coed. Os oes gennych gwestiwn ychwanegol, neu os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â ni.
Nid yw tai ffrâm coed yn goroesi cystal - a yw hyn yn wir?
Na. Nid yw'r gosodiad uchod yn wir gan fod tŷ ffrâm goed yn gallu goroesi fel pob tŷ newydd arall.
Mae'n fwy tebygol y bydd eich cartref ffrâm goed yn goroesi yn hirach na chi
Beth yw'r gwahaniaeth rhwng tŷ ffrâm goed a thŷ bloc?
Fel rheol, mae tŷ modern bloc wedi'i wneud o ddwy haen; yr haen fewnol fel rheol wedi'i wneud o
flociau concrit, a gall yr haen allanol fod wedi'i adeiladu â blociau concrit neu frics.
Mae tŷ ffrâm goed yn cymryd lle'r haen fewnol gyda ffram goed. Gellir adeiladu'r haen allanol
wedyn gan ddefnyddio blociau concrit neu frics.
Ydi yswiriant ar dŷ ffrâm coed yn ddrytach?
Nacydi. Nid yw cost yswiriant yn uwch ar gyfer tŷ ffrâm coed, cyn belled a bod y to wedi'i orchuddio â
theils, llechi naturiol neu fwyn, neu goncrit.
Beth yw'r gwahaniaeth yn yr amser mae'n ei gymryd i adeiladu tŷ ffrâm goed a thŷ bric a bloc?
Mae adeilad ffram goed yn cymryd tua thraean yn llai o amser i'w adeiladu nag adeilad bric a bloc,
yn bennaf oherwydd bod rhan helaeth o'r gwneuthurion yn cael eu gwneud oddi ar y safle. Gall tŷ ffrŷm
goed nodweddiadol fod yn ddiddos mewn llai nag wythnos.
A yw ffrâm goed yn rheoli sut fydd y tŷ gorffenedig yn edrych?
Nacydi. Dim ond yr haen fewnol sydd yn cael ei wneud o ffrâm goed, ac fe'i gorffennir fel
arfer â blociau a rendr neu friciau. Felly mae yna nifer o opsiynau ar sut y gellir
cwblhau edrychiad tŷ ffrâm goed.