
Gan fod pren caled a meddal ar gael, mae dewis helaeth o ddrysau ar gael, mewn meintiau safonol a meintiau wedi eu creu yma yn benodol yn ôl eich angen. Nid oes problem dod o hyd i ddrws i gyfateb â'ch gofynion, boed mewn ty newydd sydd ag anghenion safonol, neu eiddo o gyfnod arall penodol sydd â meintiau amrywiol; gallwn wneud drws i weddu i'ch anghenion.
Gyda drysau gorffenedig wedi eu peintio neu â staen arnynt, mae dewis di-ben draw ar eich cyfer i'ch galluogi i gael drws sy'n unigryw i chi. Pe dymunech gael drws gwydr, gall ein huned yma gwrdd â'ch union anghenion gyda'r opsiwn o ddrysau cyn-grog a chyn-orffenedig ar gael, a gallwn gynnig drws sydd yn barod i'w osod gyda chloeon a gweddill y gwaith haearn mewn amryw o gynlluniau sydd at ddant pawb. Mae ein crefftwyr profiadol gyda sgiliau o'r radd flaenaf yn gweithio yn ein ffatri newydd sbon, gan ddefnyddio'r dulliau diweddaraf er mwyn sicrhau bod y drysau a gyflenwir gennym yn rhai o'r radd flaenaf ac yn debyg o wrthsefyll pob prawf.