English
  • Cartref
  • Amdanom ni
  • Gwobrau
  • Manteision Fframiau Coed
  • Prosiectau
  • Gwasanaethau
  • Cynnyrch
  • Cwestiynau?
  • Cysylltwch
  • Dolenni

Beth yw manteision defnyddio fframiau coed?

Diagram of timber frame construction

Fel yr awgryma'r enw, dull o adeiladu sy'n dibynnu ar ffrâm goed fel modd sylfaenol o gyfnerthiad adeileddol yw adeiladwaith ffrâm goed.

Cyfeirir yn aml at adeiladau wedi'u gwneud â ffrâm fel 'adeilad disylwedd', ond mae hyn yn gamarweiniol - mae fel ysgerbwd corff wedi'i saernio'n fanwl iawn, ac yn rhyfeddol o gryf a chadarn. Wrth i dŷ gael ei adeiladu, gorchuddir y tu mewn i ffrâm goed panel agored gan blastr fwrdd sydd wedi'i lenwi ag inswleiddiwr o ansawdd da. Ychwanegir mur atal lleithder/anwedd a gorffennir yr adeilad gyda'r haen allanol. Fel rheol, defnyddir carreg, bric, rendr neu bren ar gyfer yr haen allanol - p'run bynnag sy'n gweddu i bensaernïaeth a gofynion adeiladu'r ardal.

Diagram of timber frame construction

Mae llawer o fathau o fframiau coed eraill ar gael, gan gynnwys systemau panel caeëdig a datblygedig, systemau cyfeintiol a rhai hybrid. Mae technoleg SIP yn ddatblygiad cyffrous arall mewn dulliau adeiladu sy'n defnyddio coed.

Dull adeiladu sydd wedi ennill ei blwyf ac sy'n sicrhau ansawdd yw ffrâm goed, ac fe'i defnyddir yn y rhan fwyaf o wledydd mwyaf datblygedig y byd.

Yn 'ddull modern o adeiladu' mae fframiau coed heddiw sydd wedi'u cynhyrchu mewn ffatri:

  • Wedi'i saernïo i gyfateb â safonau cywirdeb ac ansawdd o'r radd flaenaf
  • Yn symleïddio adeiladu 'ar-safle' yn sylweddol
  • Yn hyrwyddo effeithlonrwydd gwell ac integreiddio llif cyflenwi
  • Yn eich galluogi i ragfynegi a chael gwell rheolaeth dros y broses adeiladu
  • Yn cwrdd ag, ac yn aml yn rhagoriaethu pob rheol adeiladu gyfredol
  • Yn perfformio yn dda yn nhermau tân a gwrthsefyll llifogydd
  • Yn codi safonau iechyd a diogelwch adeiladu
  • Yn bodloni'r rhan helaethaf o gwsmeriaid oherwydd bod nifer llai o wallau yn bodoli
  • Yn sicr y dull adeiladu mwyaf amgylchedd-gyfeillgar o bell ffordd


Pe bai gennych gwestiynau yn codi am adeiladwaith ffrâm goed cysylltwch â ni.
Cartref | Amdanom ni | Gwobrau | Manteision Fframiau Coed | Prosiectau | Gwasanaethau | Cynnyrch | Cwestiynau | Cysylltwch | Dolenni

Hawlfraint © 2007 Williams Homes Ltd. Cedwir pob hawl.