
Lleolir cwmni teuluol Williams Homes and Timber Frames yn y Bala, Gwynedd. Dulliau adeiladu traddodiadol yw diddordeb cefndirol y cwmni, ond oherwydd tyfiant parhaol y cwmni rydym bellach wedi agor gweithdy saer coed yn ein huned ffatri a adeiladwyd i bwrpas sy'n cynhyrchu tai ffrâm goed, drysau a ffenestri.
Cynhyrchir ein holl fframiau a gwaith coed gan seiri coed traddodiadol sydd â phrofiad helaeth yn y maes. Mae ein holl gynlluniau panel yn cael eu profi'n annibynnol a chyflenwir ni â thystysgrif NHBC hb353b ar gyfer pob un. Gellir dewis rhwng gorffeniad paent Teknos neu staen ar ein holl gynnyrch pren. System beintio soffistigedig yw Teknos, sy'n galluogi i'r pren symud heb gracio'r paent.
Mae ein gwasanaeth cyflawn o gynhyrchu a gosod yn ein galluogi i leihau'r cynifer o wallau a gysylltir ag adeiladu tai. Gan mai ein cwmni ni sy'n cyflenwi'r fframiau a'r ffenestri, rhoddir y cyfrifoldeb arnom i sicrhau bod pob dim yn cydgordio er mwyn sicrhau bod y tŷ fel cragen wedi'i selio cyn gynted ag sy'n bosibl.
Pe bai gennych gwestiynau yn codi ar ôl pori drwy ein gwefan, cysylltwch â ni.